Y mae DiEM25 yn fudiad o ddemocratiaid traws-ffiniau traws-ewropeaidd.
Rydym yn credu bod yr Undeb Ewropeaidd yn chwalu. Mae pobl Ewrop yn colli ffydd yn y posibilrwydd o greu atebion Ewropeaidd i broblemau Ewropeaidd. Ar yr un pryd â mae ffydd yn yr UE yn gwanhau, gwelwn gynnydd mewn dyngasedd a senoffobia gwenwynig.
Os na fydd y datblygiadau yma yn cael eu hatal pryderwn am ddychweliad i’r 30au. Dyna pam rydym yn ymgynnull er ein hamryw traddodiadau gwleidyddol – gwyrdd, chwith radical, rhyddfrydol, cenedlaetholwyr – er mwyn atgyweirio yr UE. Rhaid i’r UE ddod yn diriogaeth o gydffyniant, heddwch ac undod i bob Ewropead. Rhaid i ni weithredu yn gyflym cyn bod yr UE yn chwalu.
Sefydlwyd safle we Diem25 Cymru i ddylanwadu are wleidyddiaeth Cymru, i ddod a phobl at eu gilydd a gwrthweithio agweddau gwaethaf brexit.
Y mae DSCs (DiEM25 Spontaneous Collectives) yn grwpiau o wirfoddolwyr sy’n trefnu gweithgareddau a digwyddiadau DiEM25. Gall unrhywun ddechrau DSC a hyrwyddo DiEM25 yn lleol, gydag ond rhyw ychydig reolau synnwyr cyffredin ynglyn a defnyddio yr enw DiEM25.
Mae gennym rai DSCau ar fin ddechrau yng Nghymru yng Nghaerdydd ac Aberystwyth yn ogystal ag aelodau unigol o amgylch Cymru. Os ydych eisiau cysylltu a DSC neu aelodau cysylltwch a ni yma.